Neidio

Neidio.

Neidio, neidio, neidio,
O un ôl traed cawraidd i’r llall,
Yn hedfan fel adar yn yr awyr,
Dwi byth yn actio’n call.

Neidio, neidio, neido,
Mae Taid yn gwennu arna’i.
Llygad gwyrdd fwdlyd, hydolus,
Croen crebachlyd, tennau

Neidio, neidio, neidio,
Trwy’r garped o eira o dan
Fy Wellington Boots binc.
Mae pobpeth yn sgleinio fel can.

Neidio, neidio, neidio,
O un ôl traed cawraidd i’r llall,
Yn hedfan fel adar yn yr awyr,
Mae rhaid actio’n call.

Neidio, neidio, neidio,
Mae’r ôl traed cawraidd yn fach nawr,
Yr eira’n crensian o dan fy Wellington Boots
Mae pobpeth yn dawel pan mae taid o dan y llawr.
♠ ♠ ♠
Wedi'i hysbrydoli gan fy nhaid. Yr syniad gan fy hathrawes Cymraeg; Eleri Llwyd. Wedi'i gwthio 'maen gan dwy o fy ffrindiau gora yn a byd eang, CJ a Sian.

Diolch. :)