Colli Ffordd

Tylwyth teg

Doedd Olwen ddim yn or hoff o gefngwlad. A hithau’n enedigol o Gaerdydd, pwy synnai? Doedd treulio wythnos o wyliau ar fferm Uwchgarnedd yn apelio dim ati, ond doedd ganddi ddim dewis yn y mater.Yn betrusgar iawn, cerddodd ar hyd y trac mwdlyd a arweiniai at fuarth y fferm. Stryffaglodd ymlaen gyda’i bag trwm, yr olwynion yn baglu’n swnllyd drost y cerrig. Roedd ei mham wedi mynnu ei gadael wrth y giat. Doedd hi ddim am gymryd unryw siawns gyda’r BMW newydd ar fuarth “brwnt” y fferm. A doedd ganddi ddim awydd gweld ei brawd a’i chwaer ynghyfraith ychwaith. Yn hytrach roedd wedi gadael ei mherch i’w thynged, a rhuthro nerth teiars y car yn ol i Gaerdydd.
Cyrhaeddodd Olwen fuarth y fferm a stopio. Edrychodd o’i chwmpas yn amheus. O.k, doedd o ddim mor frwnt ac y roedd ei mham wedi ei ddisgrifio, a doedd yr un ddafad mewn golwg. Dechraeodd ymlacio. Efallai na fyddai hyn yn brofiad mor arteithiol ag a ddisgwyilai. Roedd hi wrthi’n syllu ar y tractor pan wireddwyd ei hynllef. Daeth rhyw ubain gwyllt o gornel yr iard, a rhuthrodd tri o gwn tuag ati, yn cyfarth fel bleiddiaid. Sgrchiodd Olwen, a dechrau rhedeg tuag at y tractor, cyn iddi sylweddoli fod y tri ci yn sownd i goeden dennun. Ond, er hynnu roedd yr holl swn wedi dennu gweddill y teulu.
“Olwen!”gwaeddodd Modryb Enlli, gan ei chofleidio i’w mynwes. Ceisiodd Olwen wenu, ond roedd yn dipyn o dasg a hithau’n cael ei mygu gan y ddynes .
“Duw, a sh’mai erstalwm, yr hen Hogan?” meddai ei hewythr yn ei acen sir Feirionydd, a swniai’n aflednais, floesg i’w chlyst. Ysgwydodd Olwen ei law, gan weneud yn siwr ei bod yn osgoi ei esgidiau trwm, wedi eu gorchuddio a nifer o sylweddau amheus yr olwg.
“Fi’n dda iawn wncwl Hywel” atebodd. Teimlai’n anghyffyrddus yn siarad a’r dyn mawr, cydnerth hwn a safai o’i blaen. Mor wahanol i’r brawd eiddil, tennau a oedd yn dad iddi. Yn sydyn sylwodd ar ferch yn sefyll y tu ol i’w hwncwl, a golwg bwdlyd ar ei hwyneb. Hon oedd Lois mae’n rhaid, ac yn ol ei gwep sur roedd hithau mor hapus o gael ei chyfnither yn ymweld ag yr oedd Olwen o fod yno.
“Wel tyrd i ddweyd helo wrth dy gnither, Lois” Meddai ei mham, gan wthio Lois ymlaen.
“Helo Olwen” Meddai, heb hyd yn oed geisio gwenu. Fel petai heb sylwi ar y diffyg cyfeillgarwch rhwng y ddwy, arweiniodd Modryb Enlli bawb i’r ty, gan holi Olwen y ddygn am yr hyn a’r llall.
Suddodd calon Olwen yn is fyth wedi cyraedd i mewn i’r y ty. Waliau cerrig oer, gyda lloriau llechi digysur, a baw canrifoedd yn llechu yng nghorneli cudd yr adeilad. Mor wahanol oedd y bwthyn llwm yma i’w chartref clud, modern yng Nghaerdydd. Ochneidiodd, gan ddilyn ei modryb yn ddyfnach i mewn i grombil y carchar tywyll.
Wedi treulio noson anghyfforddus mewn stafell dywyll oer, deffrodd Olwen yn teimlo’n hynod o hunandosturiol. Sut y gallai ei mham ei gadael yn y ffasiwn le? Roedd y ty bron yn gyn-hanesyddol, y bwyd yn anfwtadwy (doedd lobsgows cartref ddim yn cytyno a hi) a’r swn yn annioddefol! Ubain cwn, brefu defaid, ac am bump o’r gloch y bore hwnnw, sgrech ceiliog. Roedd wedi cael ei deffro’n gythreulig o gynnar, ond er hynny pan ddaeth lawr i frecwast, roedd gweddill y teulu wedi hen orffen, a’i modryb a’i hwncwl allan y godro. Roedd nodyn ar y bwrdd yn darllen ;
“Helpa dy hun i fwyd, fydda ni’n ol mewn awren. Wellis sbar yn y sbensh” Treuliodd Olwen bum mynyd cyfan yn ceisio gweithio allan ystyr “Sbensh” Wedi cryn bendroni, deallodd mai cwtsh dan staer ydoedd, a wedi brecwesta gwisgodd y wellis gwyrdd, hyll amdani. Mentrodd yn araf i’r iard. Yno roedd Lois, yn chwarae swci a un o’r cwn defaid. Roedd hi’n sgyrnygu iddi hi ei hyn, am fod ei mham wedi ei gorfodi I fynd a Olwen am dro. Olwen, ffws a’i ffwdan. Doedd dim byd ddigon da I’r prima donna ddiog honno.
“Ti’n dod te?”galwodd Lois arni, wedi sylwi arni yn llechu ym mhared y drws.
“I le”
“Am dro, am wn i. “
“O” Doedd y syniad yn apelio dim at Olwen, ond doedd ganddi ddim byd gwell i’w wneud, felly penderfynodd ddilyn ei chyfnither, a mentro i’r anialwch diffaith a amgylchynai’r ffermdy. Cerddodd y ddwy mewn tawelwch am ychydig funydau, drwy’r caeau, nes dod at y tir comin a ymestynai ei freichiau llaith tuag at y mynyddoedd. Edrychodd Olwen ar ei horiawr. Roeddynt wedi bod yn cerdded ers bron i awr. Er nad oedd Lois yn dangos unrhyw arwydd o arafu, roedd Olwen wedi dechrau blino.
“Lois, gaf i stopo am ‘chydig? Fi wedi blino!”
“Su’ raid i ti? Da ni prin ‘di dechra!”
“Be i ti’n feddwl, prin wedi dechre?! De ni wedi bod yn cerdded am hydoedd! Fi’n mynd ga’tre. Sda fi ddim m’nedd ‘da’r holl drampan ‘ma o gwmpas cefn gwlad, a fi wedi ca’l digon!”
“ O cau dy geg y nei di? Yr urbanate diog. Ti ‘runion yr un fath a gweddill y dialwed na o Gaerdydd. I penne’n sownd rhy bell fyny’i tinne fedru gweld lle ma nhw’n mynd, a’n poeni fwy am sbwbio’i dillad nag am unrhyw berson arall o’u cwmpas!”
“Drycha arna ti ‘de, efo dy acen hyrt. Ma fe’n ddigon i hala rhywin yn benwan! ‘o ia, ni di’r
Cymru go iawn ia achos da ni’n byw yn Gwynadd ia, a ma 80% ohona ni’n siarad
Cymraeg, ag dani efo Dafydd Iwan a ballu’ Chi gogi’s mor llawn ohono chi’ch hynnen, yn
meddwl bo chi’n well na powb arall. Jest cer i grafi wnei di!?”Ac ar hynny rhythrodd Olwen i ffwrd i gyfeiriad y mynyddoedd heb dalu’r un iot o sylw i le roedd hi’n mynd. Safodd Lois am ennyd yn ei gwylio. Y gnawes ddigwilidd! Ond dyna ni, beth oedd i’w ddisgwyl, a hithau’n ferch i’w mham. Doedd ei rhieni hi erioed wedi hoffi mam Olwen, y ddynes fysnes uchelegeisiol o’r ddinas fawr. Roedd Hywel dal yn credu mai priodi ei frawd am ei arian y gwnaeth hi, ond dyna hi, roedd hi’n rhy hwyr rwan. Aeth Lois yn ol i syllu ar ei chyfnither, oedd yn dal i rhuthro’n flin i ddim cyfeiriad penodol. Yn sydyn, sylwodd Lois ei bod y anely’n syth am y gors welb, ddwfn, a lechai’n slei yn nghesail dwy foel. Yn ofer dechreuodd weiddi arni, a rhedeg ar ei hol. Ond roedd hi’n rhy hwyr. Roedd Olwen wedi darganfod y gors drost’i hyn, ac wedi dechrau sgrechian fel gwallgofyn. Rhuthrodd Lois i lawr tuag ati, gan faglu trwy’r man dyfiant a’r brwyn. Stenshodd trwy fwd gwlyb y gors, nes dod at ei chnither.
“ Ishd am funyd i fi dy gael di allan. Tyd, coda dy droed…”Cododd Olwen ei throed yn rhy gyflym, gan ddod a’r throed yn noeth allan o’r weli, a disgyn ar ei thin yn y gwlypdra.
“Oh my god “ sgrechiodd, “Oh my god. Help! Fi’n boddi!” Roedd Lois yn hanner chwerthin wrth iddi lusgo Olwen yn ol i dir sych. Erbyn iddi nol y weli goll roedd Olwen yn chwerthin hefyd, er gwaetha’i thin gwlyb a’i dillad budr.
“Sa’i byth yn dod am dro ‘da ti ‘to!” Chwarddod, y chwerwder oedd rhyngddynt gynt wedi llwyr ddiflannu.
“Na, a dwinna am ddod a chdi ar dennyn os awn ni i rwla eto!”
“Soi am beth wedes i gynne fach. Doeddwn i ddim yn ei feddwl e.”
“Na ‘ma’n iawn. Do nina ddim yn iawn yn deud y fath bethe wrthe ti chwaith. Sori.”
“Ma’n iawn”
“Wyddost ti be. Ma gen ti acen od iawn. Ddim byd tebig i acen neb arall o Gaerdydd yr ydwi
wedi i cyfarfod.”
“Na, wi’n gwibod. Mae mam yn Gardi’n wreiddiol, symyd i Gaerdydd ar ol gadel coleg
wnath’i. Fi wedi pigo lan ei hacen hi braidd!”
Cyd-eisteddodd y ddwy am ychydig o funudau, yn myfyrio’n braf. Yn sydyn, clywodd y ddwy gerddoriaeth od yn y pellter.
“Beth yw ‘na de? Fan hufen ia?” holodd Olwen , gan godi ar ei thread.
“Dim ffiars o berig. Ddim ffor’ hyn. A tydio’m yn fiwsig fan hufen ia chwaith. Tyd, awn ni i weld be ‘dio.” Fe wyddai Lois yn iawn na ddylai fentro’n rhy bell o’r fferm, ond roedd ei chwilfrydedd yn ormod iddi.
Ymlwybrodd y ddwy yn araf i gyfeiriad y swn. Fel y deuent yn nes, death y gerddoriaeth yn uwch yn eu clustiau. Doedd fel dim yr oedd yr un o’r ddwy wedi ei glywed o’r blaen, ac ni allent glywedd swn yr un offeryn a adnabyddasent.
Yna, daeth tarddiad y swn i’r golwg. O’i blaen roedd cylch o bobol, wedi eu gwisgo mewn dillad lliwgar, yn dawnsio mewn cylch gwyllt. Ni allai Lois weld o le y deuai’r gerddoriaeth, ond roedd hi wedi gweld digon.
“O, riw new agers, neu riw hippies gwirion sy’ma. Tyd, cyn i rywun drio sdicio bloda’n yn gwalltia ni a gneud i ni ddechra downsio…” Ond doedd Olwen ddim yn gwrando. Roedd hi wedi ei swyno gan y dawnswyr lliwgar, ac wedi mynd yn nes.
“Olwen, hei Olwen. Tyrd yn ol! Ma hi brion yn amser cinio, tyd yn ol!” Ond doedd Olwen ddim yn gwrando. Yn sydyn roedd hi yn ei plith, ac wedi ymgolli’n llwyr yn swyn y ddawns.
Baglodd Lois lawr ati, dal i weiddi’n ofer. Roedd hi wedi dychryn yn lan. Pwy oedd y bobl yma, a beth oedd yn bod ar Olwen? Roed y dawnswyr yn chwyrlio’n gynt ac yn gynt, a prin a gallai Lois weld ei chnither rhwng y miri. Sylwodd fod y merched wedi ei gwisgo mewn sgertiau a sioliau sidan, hen ffashiwn yr olwg, ac roedd y dynion wedi ei gwisgo mewn tiwnigau a throwsysau llachar.
Aeth ias sydyn drwyddi, wrth iddi sylweddoli pwy, neu yn hytrach beth, oedd y dieithriaid oedd wedi cipio ei chyfnither. Gyda’i gwynebau cain, ei gwisgoedd od, a’i perffeithrwydd brawychys, pwy y gallent fod ond y tylwyth teg? Ffieiddiodd yn syth at y fath syniad hyrt. Ond, wrth i’r syniad blanu ei wreiddiau yn ddyfnach yn ei phen, death yn sicr mai dyna oeddynt. Cofiodd am ei Nain yn son wrthi, pan oedd hi’n iau, straeon am lanciau ifanc, a aethsant ar goll mewn cylchoedd tylwyth teg, a dod yn ol flynyddoedd yn ddiweddarach, dim ond i ddisgyn yn bentwr o lwch. Dychrynodd drwyddi. Allai hi ddim gadael i’r ffasiwn beth ddigwydd i Olwen! Rhaid oedd ei hachyb rhywsyt. Ni allai gofio manylion y straeon, os oedd rhywrai wedi llwyddo i ddianc. Doedd ganddi ddim dewis ond mynd i ymweld a’i nain.
Cyrhaeddodd fwthyn ei nhain bron I awr yn ddiweddarach, ei gwynt yn ei dwrn a’r chwys yn llifo lawr ei gruddiau fel dagrau. Pan atebodd ei nain y drws cafodd sioc o weld Lois yn y fath stad
“O Lois fech, tyrd i mewn. Beth sy dwed?”
“Olwen, Olwen, o Nain, ma Olwen efo’r tylwyth teg!”
“Be”
“Mi odda ni’n cors y bedol, ac mi glywson ni gerddoriaeth, a dachin’ gwbod y stori na am y bachgen ne aeth i mewn i gylch tylwyth teg, a ddoth o’m allan am oesoedd nes odd o’n lwch, wel ma’r un peth ‘di digwydd i Olwen….”
“Dyna ti, dyna ti. Tyrd i mewn o’r drws ym mech i, ag eglyra’n iawn i mi be’n union sydd wedi digwydd i Olwen. Dy gyfnither dwi’n cymryd-ie?” Mam Enlli oedd Nain. Roedd gan y ddwy walltiau coch ,llachar, ac roedd ei nain yn gwybod popeth yr oedd i’w wybod am yr hen sir Feirionydd a’i hanesion. Eglurodd Lois eto beth oedd wedi digwydd. Er mawr syndod iddi credodd ei Nain hi’n syth.
“Ti’n iewn fy mech i. Mae hi wedi colli ei hun yng nghylch y tylwith.
“Mi rown i wedi clewed son fod yne rei o’r tylwith yn llechi ar y gors ne. Wel yn ol yr hension, os ei di’n dy ol blwyddyn a diwrnod i heddiw, etseti ei thynu hi nol i fro meidrolion.”
“Blwyddyn a diwrnod! Nain bach, mae hi fod yn ol yn Nghaerdydd erbyn dydd Gwener!”
“Aros di Lois fech, aros di. Mi glywis i son am rywrai yn mentro i mewn i’r cylch gyda rhaff wedi yng nghlwm i goeden, neu rywbeth tebig. Yna, gafael yn y ffrind, a’i tynnu allan gerfydd y rhaff.” Doedd yn cynllwyn ddim yn swnio’n addawol iawn I Lois, a doedd yn apelio dim ati. Ond roedd rhaid trio rywbeth. Ffarweliodd a’i nain, cyn rhythro’n ol adref i nol rhaff.
Sleifiodd drwy’r iard, gan glustfeinio i weld os oedd ei rhieni o gwmpas. Gallai glywed dim, felly daeth o hyd i raff a’i miglo hi’n ol at lle roedd Olwen yn dal i droelli’n wyllt.
Roedd aelodau’r cylch yn troelli’n gynt fyth, ei dillad yn toddi fewn i’w gilydd fel enfys wyllt. Daeth Lois o hyd I goeden gref, a safai tua canllath I ffwrdd o’r dawnswyr. Clymodd y rhaff yn sownd amdani, cyn clymu ei phen arall o’i chwmpas hithau. Ai chalon yn ei gwddf, mentrodd i mewn i’r cylch. Fe’i taflwyd yn syth i’w ganol, tra chwyrliai’r dawnswyr heini o’i chwmpas fel corwynt. Os oedd ei h’wynebau cynt yn gain a thlws, roeddynt fel ellyllod yn awr, yn ‘sgyrnygu a sgrechian arni. Ymestynai brechiahiau hir fel canghenau tuag ati, ei gwinedd yn ei chripian fel drain. Dechreuodd golli ffydd, roedd hi’n teimlo’r cyfog yn codi, ac yn cael ei chwyrlio fel petai ar chwrligwgan. Ond yn sydyn gwelodd Olwen. Roedd hi wedi newid yn gyfan gwbl, ei gwallt yn disgyn yn rhydd rost ei sgwyddau, a’i dillad yn garpiau. Neidiodd amdani, a gafael ynddi a llaw o ddur. Yn araf a llafyrys, dechreuodd lusgo ei hyn ac Olwen allan o’r cylch, gan hanner dringo’r rhaff. Yna, ar ol beth a deimlai fel canrifoedd, roedd hi allan o’r cylch yn ol ym myd meidrolion. Disgynodd I’r llawr, wedi llwyr ymladd. Wrth ei hochor gorweddai corff ei chyfnither, yn hollol ddiymadferth. Dechreuodd boeni ei bod wedi bod yn rhy hwyr yn achub Olwen, ond er cryn ryddhad iddi fe gododd ei chnither, gan ryddfan yn uchel.
“Oh my god. Fi’n teimlo fel bo gen i hangover y jawl! Be sy wedi digwydd?”
“Os byswn i’n dweud wrthe ti dy fo ti wedi colli dy ffordd a chael dy hun yng ngwlad y tylwyth teg, a bo fi newydd achyb dy fywyd di, fasa ti’n yng nghoelio i?”
“Na”
“Digon teg. Na finna chwaith a deud y cwir. Iesgob, ma hon am fod yn stori hir. Ti’n gweld y bobl na’n fana….” Roedd y dawnswyr wedi diflanu, fel gwlith y bore, gan adael dim ar eu hol.