Gwenllian

Carcharor?

Dilynodd Euros ac Osian yr hen ŵr drwy’r gwyrddni at bentwr o greigioau yr ochor draw i’r bryn. Dechraeodd Bedwyr ddring rhwng y creigiau, cyn diflannu i mewn i geudod rhwng dwy garreg. Dilynodd y ddau arall ef, Osian yn llawn hyder, Euros yn fwy petrys. Roedd y daith yma’n mynd yn odiach bob mynyd. Gyda syndod gwelodd risiau wedi ei cuddio’n y ceudod, yn arwain at grombil y Bryn. Camodd yn ofalus i lawr i mewn i dwnnel tywyll. Oi flaen roedd Bedwyr wedi goleuo ffagl, a dilynodd Euross y goleni o’i flaen. Gyda’r golau prin, gwelodd ei fod mewn twnnel cul. Amgrymai’r waliau cnapiog mai twnnel natyriol ydoedd. Ymledai ymhell o’i flaen, a teithioai y tri mewn tawelwch perffaith am ychydig fynydau. Sylwodd ar y waliau’n lledu, a dechraeodd glywed sŵn siarad yn y pellter. Trodd y twnnel yn araf i mewn i ogof, gan agor yn neyadd fawr. Yno roedd tua deg ar hugain o wyr wedi ymgynyll, croesdoriad eang o wyr hyn a llanciau ifanc, i gyd wedi ymgasgly o flaen tanllwyth mawr o dan. Diflanai’r mwg trwy dwll yn nenfwd yr ogof, a gloeywyd yn neyadd gan ddegau o ffaglau mewn cramfachau yn y waliau. Er mai cymharol fach oedd y neyadd, methai’r golau dreiddio i’r corneli pellaf, ac roedd awyrgylch anesmwyth i’r lle.
Wrth weld y tri’n ymddangos yng ngheg y twnnel, troes pawb oedd o amgylch y tan atynt, gan eu cyfarch a bonllefau croesawgar.
“Bedwyr”
“Osian”
“Dyma fo!”
“Gair wedi dod o Fon o’r diwedd!”
Nesaodd y tri at y tan, a sylwodd Euros am y tro cyntaf yr oerfel mawr ym mer ei esgyrn. Closiodd yn y fflamau cynnes, a comodd gwr ato i’w gyfarch
“Croeso i Gricieth f’arglwydd...?
“Euros”
“Dewch yn nes at y tan. Mathonwy ab Rheinallt ydwyf i, cyn swyddog ym myddin yr Arglwydd Llywelyn. A gawsoch chi siwrnai dda o Fon?”
“Go lew, diolch”
“Nawr, dywedwch, beth yw’r newydd o Fon?” Disgynodd tawelwch llethol dros y cwmni ar ynganiad ei eiriau.
“Ie.. Mon..Mae’r pwyllgor wedi darganfod lleoliad y dywysoges Gwenllian”
“Beth....”
“Ond roeddwn i dan yr argraff ei bod hi wedi marw!”
“Y dywysoges yn fyw?”
“Gadewch iddo orffen ei neges” Daeth llais Mathonwy i’w tawelu.
“Mae hi wedi ei chuddio mewn abaty yn nwyrain Lloegr”
“Felly mae’r pwyllgor am drefny cyrch milwrol i’w rhyddhau?”
“ Mae hi’n fwy cymhleth na hynny. Dydy hi ddim, fel y cyfriw wedi ei charcharu. Ychydig o fisoedd o oed oedd hi pan y cipiwyd hi. Tydy hi heb brofi’r un bywyd ond hwnnw y tŷ mewn i furiau’r abaty. Hyd y gwyddom ni, tydy hi ddim yn gwybod yr un gair o Gymraeg- efallai nad ydy hi’n gwybod mai Cymraes yw hi hyd yn oed”