Status: Wedi gorffen!

Dwi'n Hoyw a Dwi'n Gadael

Rhan Dau

Roeddwn i mor twp. Roedd dim ond un ty allen ni wedi mynd i, a hynny oedd ty Jac. Ond beth os mae e'n cael llond bol o fy ngweld i pob amser a bydd rhaid i ni symud allan? Ble bydden ni'n mynd wedyn? Roliodd meddyliau fel yna yn fy mhen yr holl ffordd i dy Jac. Doedd o ddim yn bell, yn ddweud y gwir, ond yn fy mhen, roedd o'n cymrud awr ar y lleia.

Fe anghofiais popeth pan welais i'r gwyneb hardd yna. Rhedais lan at Jac a'i gusanu ar bwys ei ddrws ffrynt. Roedd o'n neis, cusanu fy nghariad yng nghyhoeddus. Pan stopiodd ni, roedd Mam yn goch fel tomato. Anghofiais bod fy rhywoldeb yn peth newydd iddi, ond roedd hi eisiau derbyn e, yn groes i Dad a oedd eisiau fi allan o'i fywyd mor soon a oedd yn bosib.

Daeth mam Jac allan o'i dy. Wrth gwrs bod hi'n gwybod fy mod i'n hoyw. Dwedodd Jac wrthi, ond dwi'n meddwl roedd hi'n gwybod ers roedden ni'n fach. Gwenodd ei gwen twym ataf. Roedd Jac a'i fam yn rhannu'r un gwen, ond roedd llygaid hardd a fygythiol ei dad ganddo hefyd. Dechreuais crio fy niolch i Jac a'i deulu ar bwys ei ddrws ffrynt.

"Mae'n iawn, bach. Arhosa chi fel oes angen. Does dim trwbl, wir i chi," meddai mam Jac heb gollwng ei gwen.

"Diolch am bopeth Mrs Deans, mae'n golygu'r byd i mi," meddaf.

* * *

Dydw i heb wedi clywed o fy nhad ers tair wythnos. Rydw i'n dal yn caru fy nhad, gall dim newid hynny, ond roedd o'n hynod o dwp weithiau. Roedd e'n dda yn maths, Saesneg (dim yn cystal yn Cymraeg) a Ddaearyddiaeth, heb son am ei dalent fel tad a pysgota a dweud straeon. Doeddwn i ddim yn barod i golli hynna i gyd. Dechreuais crio am y pumed waith yr wythnos 'na.

Roedd Jac ar fy mwys i, yn rwbio fy nghefn fel cymorth. Roedden ni'n cysgu yn yr un ystafell, gan ei fod yn byw yn ty eitha bach. Cusanodd Jac fy wefysau a oedd yn blasu'n halenog gan fy mod i wedi bod yn crio drostynt.

"Dwyt ti ddim yn gwybod pa mor gryf yw fy nheimladau i ti, Bobs. Rydw i eisiau gwneud popeth yn iawn, ond dwi ddim yn gwybod sut. Dydw i ddim yn gallu siarad yn wael am ei Dad, achos roedd dim ond un nodwedd drwg ganddo. Mae o'n dyn da. Mae e jyst angen dysgu sut i fod yn dyn well."

"Rwyt ti'n dweud nad wyt yn gwybod beth i dweud, ond rwyt ti'n dweud yn union beth dylet ti ddweud, Jac. Diolch am hynny." Cusanais ei wefusau yn gyflym.

"Wyt ti wedi trio galw fe?" gofynnodd Jac.

"Ti'n jiniys, ond dyw e ddim eisiau siarad 'da fi."

"Well rwyt ti eisiau siarad 'da fe, ac mae hynny'n digon da i fi."

Rhedodd Jac i nol ei ffon pan chwaraeais gyda fy mysedd. Daeth yn ol mewn chwinciad chwanen, a doeddwn i ddim yn barod i siarad iddo. Doedd Jac ddim yn mynd i fy adael yn llonydd, felly rhoddais tro arni. Rhoddais rhif ffon fy nhad yn ffon Jac.

Gwrandais am ateb, ond daeth dim un ond am:

"Rwyt ti wedi ffeindio Rob Jones. Rydw i'n brysur ar y foment, felly gadaelwch neges os oes rhaid. Byddaf yn ol yn fuan."

Dydw i byth wedi clwyed y recordiad yna o'r blaen, ond roedd hynna achos roedd ei dad yn ateb y ffon pob tro. Roedd e'n gadael ei ffon ar 'speakerphone' pan mae'n gyrru, ac mae o'n byth yn rhy brysur am alwad. Roedd y recordiad yn un hen, yn bendant. Felly pam nad oedd wedi ateb y ffon?

"Dwi angen mynd," rasiais allan o'r ystafell.

"Bobs, ti'n gallu galw eto..."

Doedd dim point galw eto. Doedd y dyn yma ddim yn colli alwad os doedd dim byd yn bod. Cerddais i ffwrdd o ty saff Jac i ymweld a'r dyn a oedd wedi fy nghicio i allan tair wythnos yn gynharach.

* * *

Cerddais yn araf tuag at fy hen dy. Roedd o'n edrych fel roedd e yn fel arfer. Yn syml. Fel doedd dim byd yn bod. Fel roedd teulu normal yn byw ynddi. Dau rhiant ac un, dau, tri neu pedwar plentyn hollol heterorywiol ynddi. Chwerthais am eiliad cyn cofio pam roeddwn i yma. Sleifiais tuag at y ddrws.

Roedd y drws ar agor, ac roedd car fy nhad tu allan o'r ty, felly roedd e'n adref yn siwr, ond roedd car arall yna hefyd. Roedd hynny'n od. Wrth mynd trwy'r drws, gwelais bod popeth yn yr ystafell fyw yn normal. Roedd y ffaith hynny ar ei hunain yn rhoi sioc i mi.

Edrychais rownd yr ystafell i weld os oedd Mr Rob Jones wedi newid unrhywbeth. Yr ateb syml oedd na. Roedd popeth fel roedd o fod i bod fel, ac roedd hynny'n ansefydlog. Es i trwy'r drws i edrych ar yr ystafell bwyta, a oedd yr un peth. Doedd dim byd o'i le. Popeth yn berffaith.

Gwelais un gwahaniaeth yn y gegin. Roedd fy nhad wedi prynu gwin. Mae fy mam yn casau alcohol ers iddi cael tipyn yn coleg a gwneud ffwl o'i hunain. Dwedodd hi roedd e'n anodd stopio yfed 'rol 'ny, ond fe daeth hi trwodd, felly doedd dim gwin i Dad. Sleifiais wedyn i'r grisiau a stopiais.

Roedd synau'n dod o lan loft. Roedd e'n rhyfedd. Roedd y synau'n aneglur ac yn dawel, fel roedd y pobl lan lloft yn trio bod mor dawel a oedd yn bosib. Cerddais i fyny'r grisiau yn araf bach. Un cam ar y tro. Coes chwith, coes dde, coes chwith, coes dde. Roedd yn rhaid i mi atgoffa fy hunain sut i gerdded, ro'n i mor nerfus.

Roedd y synau dawel bach yn dod o ystafell Dad ar ochr arall y coridor. Eto yn dawel fel llygoden, edrychais trwy'r gap yn y ffram ddrws (a oedd yn agor) a stopiais. Roedd fy nhad yn cheto ar Mam, er roeddwn i'n eithaf siwr roedden nhw'n mynd i ysgaru. Nid yna a oedd yn poeni fi. Trodd y ddau ataf i. Llynciais. Roedd Dad wedi fy ngweld i weld e cusanu dyn arall.
♠ ♠ ♠
Diolch am ddarllen. Ydy unrhywun yn darllen rhain? Dwi'n meddwl fi yw'r unig awdur sy'n siarad Cymraeg ar Mibba...

Os wyt ti eisiau darllen e yn Saesneg, mae 'na fersiwn arall.
"I'm Gay and I'm Leaving".