Status: Wedi gorffen!

Dwi'n Hoyw a Dwi'n Gadael

Epilog

Jyst fel hynny, roedd fy nhad a fi wedi dod yn ffrindiau eto. Roedd e’n neis, bod yn ei ffrind eto.

Ymhen misoedd, roedd fy Mam wedi briodi a’i ddêt. Roedd o’n ddyn da, hollol heterorywiol. Roedd hi’n caru fo gyda’i chalon i gyd, ac mae Mam wedi maddau a Dad nawr hefyd. Erbyn hyn mae Mam wedi symud allan, felly yn hytrach na dewis fy mam neu fy nhad, rydw i’n aros gyda Jac ac yn ymweld a Mam weithiau ac ymweld a Dad weithiau.

Roedd y dyn roedd Dad yn ei gusanu yn nawr ei gariad, ac mae nhw’n edrych i briodi mor gynted a mae hi’n gyfreithol. Mae’r ddau yn siwtio’i gilydd ac mae nhw’n hollol hapus.

Fi? Wel, rydw i’n gadael y chweched o fy ysgol heddi! Wel, reit nawr, i bod yn onest. Ni all fy mywyd bod yn well. Mae Jac wedi cael ei ddwylo ar swydd mae’n caru, ac rydyn ni’n edrych am rhywle i fyw a swydd i mi hefyd. Mae Elsie yn ddigon hapus am y ddau ohonom!

Yn ein wasanaeth gadael, gofynnais i siarad. Roedd chwys ar fy nwylo i gyd ac roeddwn i’n nerfus iawn, ond pan welais gwyneb Jac yn edrych ataf, roeddwn i’n barod i siarad.

“Chweched Dosbarth, Blwyddyn 13, rydyn ni wedi gorffen yn yr ysgol. Mae gen i un peth i ddweud cyn i ni adael. Ysgol Glantaf, rydw i’n gadael, a rydw i’n hoyw!”
♠ ♠ ♠
Diolch am ddarllen yr holl beth! Roedd y stori yn hira na roedd e fod i bod. Roedd rhan un yn bod i fod yn unigol, ond o wel. Wedi gorffen!