Castell

Ti’n gaeth yng Nghastell dy ben,
Tan glo, mewn cell sy’n bell o’r nen.
Ac ei mor wag yw’r holl neyaddau,
Amdano ti mae’ muria’n cau.

Dan deurnasiad dy dywyllwch,
Mae blwch, tan glo’n hel llwch.
Yn angof ynddo, atgof pell,
O chwerthin, gobaith a dyddiau gwell.

Gwel law yn estyn, ymbil,
I’th dynnu allan o grombil-
Crombil cas dy ben y hyn,
Sy’n gastell llawn gwenyn.

Uwch dy ben, trwy ffenest gul,
Gwel fan gwyn, goleuach.
Ond cadwyni tywyll sydd
Yn dy rwystro rhag ei gyraedd.