Yno

Yno, ger glan y dŵr
Eistedda murddun fel hen ŵr,
Ei draed yn trochi yn yr heli,
Ei freichiau’n chwifio enfys baneri.

Ei safiad yn gadarn, yn gryf ac yn falch,
Ei ben yn uchel i herio pob gwalch,
Pŵer a nerth yng ngewynnau ei freichiau,
Ei lygaid craff yn gwylio'r glannau.

O’i amgylch, llongau llynges y lli,
Ei hwyliau yn canu am gyfoeth a bri,
Ysblanedd o dramor ym mhorthladd hen frenin,
Yn hudol fel lledrith Myrddin y brenin.

Ond, daeth gwenwyn yn gwmni-
Gyda’r aur a ddaeth yn lli,
Yn lladd y gwraidd dan fwgwd telaid,
Gwen ffug yn gwenwyno enaid.

Suddo’i lawr wna muriau’r castell
A bugail newydd aeth a’i ddiadell.
Gaeaf hirlwm, tywyll oerfel,
Gobaith pell ar for heb orwel.

Ond gwanwyn ddaw i gynnau coelcerth
Cynnau angerdd, gwroldeb a hiraeth.
Hiraeth am gan, a cherdd, a heniaith,
Yn sbardun i ddechrau ar y daith.