Mynydd Foel

Fei gwelaf hi o bobman,
Mewn drycin, gwynt a heulwen-
O’I chwmpas, brenhinoedd Eryri,
Ond ar ei phen, ei choron hi.

Nid cawres fawr mohoni
Ei phrif nodwedd, yn wir yw ei moelni.
Ond cysyr, wastad yw ei gweld yn eistedd
Ym mynwes las y tomenydd.